Cyn Geiswyr Lloches yn Ennill Gwobr Undeb Credyd
Mae cyn-geisiwr lloches sydd wedi helpu ei gymuned i osgoi benthycwyr arian didrwydded a benthycwyr llog uchel wedi derbyn gwobr fawreddog gan Undebau Credyd Cymru.
Derbyniodd Mamadu Djalo wobr “Aelod yn Gwneud Gwahaniaeth” gan y darlledwr BBC Roy Noble OBE yn y Pierhead ym Mae Caerdydd i gydnabod ei waith rhagorol o fewn cymuned Affricanaidd Butetown, Caerdydd.
Dywedodd: “Mae’n anrhydedd mawr i mi dderbyn y wobr hon ac rwyf am ddiolch i Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro am eu holl gefnogaeth i’r gymuned ceiswyr lloches yng Nghaerdydd.
“Heb undeb credyd byddai llawer ohonyn nhw wedi troi at fenthycwyr anfoesegol a byddent wedi cynyddu hyd yn oed yn fwy o ddyled.”
Ymunodd Mamadu ag Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro yn 2015 ar ôl symud i Gaerdydd gyda’i deulu, ar ôl ffoi o’i fro enedigol, Guinea Bissau.
Ers hynny mae wedi dod yn arweinydd cymunedol i eraill sy’n wreiddiol o’r un rhanbarth, sydd hefyd wedi ymgartrefu yng Nghymru.
Anogodd nifer sylweddol o geiswyr lloches o Guinea Bissau, Nigeria, Cameron a Senegal i ddod yn aelodau undeb credyd.
Mae Mamadu yn cyflwyno sesiynau codi ymwybyddiaeth ymhlith ei gymuned yn ystod cynulliadau cymunedol am y risg o fenthycwyr arian didrwydded, ac yn cyfeirio aelodau sydd angen credyd fforddiadwy i’r undeb credyd,
Dywedodd Leanne Herberg, Prif Weithredwr Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro; “Hyd heddiw, mae Mamadu yn parhau i hyrwyddo ein gwasanaethau undeb credyd yn gyson ymhlith ei gymuned. Mae’n arwr di-glod gwirioneddol, i’w gymuned ac i’r mudiad undebau credyd.”
Dywedodd Tom Owens, Rheolwr Progress Systems Ltd a noddodd y digwyddiad: “Mae Gwobrau Undebau Credyd Cymru yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad busnesau, gweithwyr, sefydliadau, aelodau a gwirfoddolwyr tuag at y mudiad undebau credyd byd-eang.
“Mae’n dangos sut mae undebau credyd yn adeiladu cymunedau ac yn helpu pobl i reoli eu harian ar gyfer dyfodol gwell.”
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru: “Mae undebau credyd yn cynnig ffordd foesegol a fforddiadwy o gynilo a benthyca i bob un ohonom. Maent yn ffordd y gallwn gyfrannu fel cymuned i gefnogi’r rhai sy’n profi caledi, dyled a thlodi. Mae hyn yn bwysicach nag erioed yn wyneb yr argyfwng costau byw presennol
“Gallwn ni i gyd helpu i danategu’r gwasanaeth benthyca a chynilo moesegol hwn i’r rhai sydd ei angen yn lle benthyciadau diwrnod cyflog.
“Rwy’n credu y gallwn gyda’n gilydd wneud gwahaniaeth enfawr i les ariannol pobl ar draws ein cenedl.
“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr am bopeth maen nhw’n ei wneud i hybu gwaith anhygoel darparwyr cynilion a benthyciadau moesegol ledled Cymru.”
Diolch i gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, cynhaliwyd Gwobrau Undebau Credyd Cymru yn y Pierhead ym Mae Caerdydd gerbron cynulleidfa o bron i 100 o westeion.
Roedd wyth categori gydag enillydd a chanmoliaeth uchel wedi’u henwi ar gyfer pob un. Cyflwynwyd y gwobrau gan y darlledwr BBC Roy Noble OBE.
Cynhaliwyd Gwobrau Undebau Credyd Cymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd (dydd Iau 20 Hydref)