Eiriolwr undeb credyd Caerdydd yn Wirfoddolwr y Flwyddyn
Mae Ann Riddick wedi’i henwi’n Wirfoddolwr y Flwyddyn gan Undebau Credyd Cymru am redeg pwynt casglu i drigolion lleol yn y Tyllgoed, Caerdydd.
Dros y blynyddoedd mae hi wedi annog mwy na 40 o bobl i ddod yn aelodau o undeb credyd ac wedi eu helpu i wneud cais am fenthyciadau cymeradwy gwerth dros £20,000.
Ac er iddi ddioddef strôc yn ddiweddar, ei phrif bryder oedd sut y byddai’r man casglu lleol yn cael ei redeg yn ystod ei chyfnod o adferiad.
Meddai Ann “Mae derbyn y wobr hon yn golygu’r byd i mi oherwydd rydw i bob amser wedi credu ym manteision bod yn aelod o undeb credyd ac yn annog cymaint o bobl ag y gallaf i gofrestru.
“Mae’r amrywiaeth o gynlluniau cynilo hawdd a benthyciadau fforddiadwy y gellir eu rheoli yn rhoi undebau credyd ben ac ysgwydd uwchben banciau’r stryd fawr. Dyna pam y dymunaf i fwy o bobl sylweddoli’r manteision o ddod yn aelod a chwarae rhan weithredol yn ei ddatblygiad ar adeg gyda’r bydd argyfwng cost-byw yn effeithio ar bob un ohonom.”
Mae Ann yn aelod gwreiddiol o’r tîm yn Eglwys San Pedr pan sefydlwyd y man casglu am y tro cyntaf yn 2014 ac mae wedi bod yn ased i drigolion y Tyllgoed.
Yn ystod gwyliau’r haf mae’n gofyn i aelodau eraill ddod â’u plant neu eu hwyrion i’r mannau casglu ac yn eu dysgu am fanteision bod yn aelod o undeb credyd.
Dywedodd Leanne Herberg, Prif Weithredwr Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro: “Mae Ann yn ysbrydoliaeth wirioneddol i gymuned y Tyllgoed a’r darpar
wirfoddolwyr. Mae ei hymroddiad i ddychwelyd i’w man casglu yn syth ar ôl ei strôc yn ymrwymiad anhygoel.
Robert Kelly, Prif Weithredwr Dywedodd ABCUL ac ar ran Fforwm Cymru ABCUL a noddodd y categori hwn: “Mae Gwobrau Undebau Credyd Cymru yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad busnesau, gweithwyr, sefydliadau, aelodau a gwirfoddolwyr i’r mudiad undebau credyd byd-eang.
“Llongyfarchiadau i Ann am bopeth y mae’n ei wneud i hybu gwaith anhygoel darparwyr cynilion a benthyciadau moesegol ledled Cymru.”
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru: “Mae undebau credyd yn cynnig ffordd foesegol a fforddiadwy o gynilo a benthyca i ni i gyd. Maent yn ffordd y gallwn gyfrannu fel cymuned i gefnogi’r rhai sy’n profi caledi, dyled a thlodi. Mae hyn yn bwysicach nag erioed yn wyneb yr argyfwng costau byw presennol.
“Gallwn ni i gyd helpu i danategu’r gwasanaeth benthyca a chynilo moesegol hwn i’r rhai sydd ei angen yn lle benthyciadau diwrnod cyflog.
“Rwy’n credu y gallwn gyda’n gilydd wneud gwahaniaeth enfawr i les ariannol pobl ar draws ein cenedl.
“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr am bopeth maen nhw’n ei wneud i hybu gwaith anhygoel darparwyr cynilion a benthyciadau moesegol ledled Cymru.”
Dywedodd Tom Owens, Rheolwr Progress Systems Ltd a noddodd y gwobrau: “Mae Gwobrau Undebau Credyd Cymru yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad busnesau, gweithwyr, sefydliadau, aelodau a gwirfoddolwyr tuag at y mudiad undebau credyd byd-eang.
“Mae’n dangos sut mae undebau credyd yn adeiladu cymunedau ac yn helpu pobl i reoli eu harian ar gyfer dyfodol gwell.
Oherwydd cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, cynhaliwyd Gwobrau Undebau Credyd Cymru yn y Pierhead ym Mae Caerdydd gerbron cynulleidfa o bron i 100 o westeion.
Roedd wyth categori gydag enillydd a chanmoliaeth uchel wedi’u henwi ar gyfer pob un. Cyflwynwyd y gwobrau gan y darlledwr BBC Roy Noble OBE.
Cynhaliwyd Gwobrau Undebau Credyd Cymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd (dydd Iau 20 Hydref)