Sel Brenhinol i Undeb Credyd Dragonsavers
Derbyniodd Undeb Credyd Dragonsavers sêl bendith brenhinol pan ymwelodd Tywysog Cymru a Duges Cernyw â Threorci.
Ymunodd Llywydd Dragonsavers Ian Gyles â’r Rheolwr Christina Stoneman a’r Rheolwr Cyllid Melanie Best i gwrdd â’r Tywysog Charles a Camilla.
Dywedodd Christina: “Roedd yn bleser pur eu croesawu i Dreorci ac er bod ein hamser gyda nhw yn fyr roedd yn gyfle da i egluro’r manteision y mae ein hundeb credyd yn eu cynnig i bobl ar draws y fwrdeistref sirol.
“Mae’r Dduges wedi bod yn eiriolwr dros y mudiad undebau credyd ers tro ac yn deall pam mae darparwyr cynilo moesegol a benthyciadau fforddiadwy fel ni yn hanfodol i gymunedau.
“Roedd yn addas ein bod ni’n un o’r busnesau i gwrdd â nhw oherwydd yr effaith gadarnhaol mae Dragonsavers yn ei gael ar fywydau miloedd o aelodau ar draws y rhanbarth.”
Ymwelodd y ddau â’r Rhondda i gydnabod llwyddiant busnesau Treorci i ennill Gwobr Stryd Fawr Orau Prydain.
Yn ystod yr ymweliad cawsant eu cyflwyno i nifer o fusnesau lleol cyn i’r Tywysog dynnu peint o gwrw yn Y Llew ar y brif stryd.